Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Jonathan Thomas (ganed 27 Rhagfyr 1982). Mae'n chwarae i'r Gweilch fel blaenasgellwr, ac mae wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau.

Jonathan Thomas
Ganwyd27 Rhagfyr 1982 Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra196 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau110 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
Safleblaenasgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed Jonathan Thomas yn nhref Penfro. Bu'n chwarae rygbi i Glwb Rygbi Abertawe cyn trosglwyddo i'r Gweilch pan ddechreuwyd rygbi rhanbarthol yn 2003.

Ar ôl chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 2003. Daeth i sylw trwy ei berfformiad yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon yng Nghwpan y Byd yr un flwyddyn. Roedd yn rhan allweddol o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 2008.