José Antonio Aguirre

José Antonio Aguirre i Lecube oedd lehendakari (Arlywydd) cyntaf Gwlad y Basg yn Ystod Rhyfel Cartref Sbaen (6 Mawrth 190422 Mawrth 1960).

José Antonio Aguirre
FfugenwDr. Azpilikoeta Edit this on Wikidata
GanwydJose Antonio Aguirre Lecube Edit this on Wikidata
6 Mawrth 1904 Edit this on Wikidata
Bilbo Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mawrth 1960 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Deusto Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, cyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddLehendakari, Member of the Cortes republicanas, Member of the Cortes republicanas, Member of the Cortes republicanas, Member of the Cortes republicanas, maer Getxo Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol Gwlad y Basg Edit this on Wikidata
Gwobr/auDiffiniadau ac Anrhydedd Gwlad y Basg Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auAthletic Bilbao Edit this on Wikidata
Saflecanolwr Edit this on Wikidata
Jose Antonio Agirre Lekube yn 1933 ar Aberri Eguna (Diwrnod Mamwlad y Basgiaid).

Ganed Aguirre yn Bilbo, a bu'n chwarae pêl-droed i glwb Athletic de Bilbao. Graddiodd yn y gyfraith o Brifysgol Deusto, ac ymunodd a Phlaid Genedlaethol Gwlad y Basg, gan gael ei ethol yn faer Getxo. Ar farwolaeth ei dad, daeth yn rheolwr ffatri siocled y teulu.

Yn nechrau'r 1930au, bu'n flaenllaw yn yr ymdrechion i geisio creu Gwlad y Basg hunanlywodraethol, yn cynnwys Navarra. Roedd yr ymdrechion yma'n parhau pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref ar 1 Hydref 1936. Ar 7 Hydref, etholwyd Aguirre yn "lehendakari", gan gymeryd y llŵ traddodiadol dan y dderwen yn Gernika. Ffurfiwyd llywodraeth Fasgaidd a Byddin Fasgaidd. Parhaodd yr ymladd yng Ngwlad y Basg hyd 1937, pan gipiwyd Bilbo gan fyddin Franco ym mis Mehefin. Bu raid i Aguirre ffoi, a bu mewn alltudiaeth ym Mharis hyd 1941, gan gynnal llywodraeth alltud. Wedi i Ffrainc gael ei meddiannu gan yr Almaen, symudodd i'r Unol Daleithiau. Yn 1946 dychwelodd i Ffrainc, lle ail-ffurfiwyd y Llywodraeth Fasgaidd. Bu farw o drawiad y galon yn 1960.