Joshua Thomas

gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a hanesydd

Roedd Joshua Thomas (22 Chwefror 171925 Awst 1797) yn weinidog efo'r Bedyddwyr yn y 18g. Ei brif enwocrwydd yw fel awdur y llyfr Hanes y Bedyddwyr (1786), sef hanes cynnar y Bedyddwyr yng Nghymru. Ganwyd Joshua Thomas yng Nghaio; bu farw yn Llanllieni yn Lloegr.[1]

Joshua Thomas
Ganwyd22 Chwefror 1719 Edit this on Wikidata
Caeo Edit this on Wikidata
Bu farw25 Awst 1797 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd yn dyst i ddatbygiad crefydd yng Nghymru y cyfnod ac yn weithgar iawn yn y mudiad i ddosbarthu'r Beibl Cymraeg.

Roedd yn fab i Forgan Thomas o'r Tŷ Hen, Caio. Priododd yn Ionawr 1746 ac ymsefydlodd yn Y Gelli lle roedd yn bregethwr. Wedyn aeth ymlaen i ofalu am Fedyddwyr Llanllieni ac oddi yno y daeth yr arian i brynu 120 o feiblau cymraeg i ddosbarthu yn y tai cwrdd - rhodd gan Mrs Marlow, aelod o'i gapel.

Roedd yn cydoesi gyda Griffith Jones, Llanddowror, a Daniel Rowland ac yn dyst i ddechreuad y Diwygiad Methodistaidd. Ysgrifennodd am hanes ei enwad yn y Saesneg ac yn y Gymraeg.

Ceir ailargraffiad o ran o'i waith ym 1907 dan y teitl Gwaith Joshua Thomas (1907) gan Wasg Ab Owen, Llanuwchllyn. Dim ond sgwennu am ei ganrif ei hun a wnaeth yn y fersiwn hon, am ei fod yn dyst i'r cyfnod - hyd at 1777 o leiaf. Drwy Thomas y down i glywed i Syr Thomas Middleton, Y Waun ariannu argraffiad Cymraeg o'r Beibl.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Morgan, D. Densil. "Thomas, Joshua (1719–1797)". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/27232.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)