Roedd Julius Nepos (c. 430480) yn Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin (474475 neu –480); yn ôl rhai ef oedd yr ymerawdwr De jure olaf.

Julius Nepos
Ganwyd430 Edit this on Wikidata
Dalmatia Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 480 Edit this on Wikidata
o clwyf drwy stabio Edit this on Wikidata
Split Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddWestern Roman emperor, llywodraethwr Edit this on Wikidata
TadNepotianus Edit this on Wikidata
Priodwife of Julius Nepos Edit this on Wikidata

Roedd Nepos yn ŵr i nith yr ymerawdwr yn y dwyrain, Leo, a dyma sut y cafodd yr enw nepos — "nai". Penododd Leo ef yn ymerawdwr yn y gorllewin yn 474, i roi diwedd ar deyrnasiad Glycerius.

Llwyddodd Nepos i ddod i gytundeb ag Euric, brenin y Fisigothiaid, ond roedd ei drafodaethau a Geiseric, brenin y Fandaliaid, yn llai llwyddiannus. Roedd Nepos yn ymerawdwr eithaf galluog, ond roedd yn amhoblogaidd gyda Senedd Rhufain oherwydd ei fod wedi ei apwyntio gan Leo. Ar 28 Awst, 475, cipiodd Orestes y magister militum, yr awenau, a gorfododd Nepos i ffoi i Dalmatia. Enwodd Orestes ei fab ei hun, Romulus Augustus, yn ymerawdwr.

Parhaodd Nepos i deyrnasu fel ymerawdwr yn Dalmatia, ac ef oedd yn cael ei ystyried fel y gwir ymerawdwr gan yr ymerodraeth yn y dwyrain.Pan gipiodd Odoacer ddinas Ravenna, gan ladd Orestes a diorseddu Romulus at 4 Medi, 476, cytunodd yr ymerawdwr yn y dwyrain, Zeno i'w dderbyn fel patricius yr ymerodraeth ar yr amod ei fod yn cydnabod Nepos fel ymerawdwr yn y gorllewin.

Tua 479, dechreuodd Nepos gynllwynio yn erbyn Odoacer, gan obeithio adennill rheolaeth ar yr Eidal, Llofruddiwyd ef gan ei filwyr ei hun yn 480.

Rhagflaenydd:
Glycerius
Ymerodron Rhufain yn y gorllewin Olynydd:
Romulus Augustus