Gorynys yng ngogledd Ewrop yw Jylland (Almaeneg Jütland). Mae'r rhan ogleddol yn perthyn i Denmarc a'r rhan ddeheuol i'r Almaen, lle mae'n ffurfio rhan o dalaith Schleswig-Holstein. I'r gorllewin o Jylland mae Môr y Gogledd, tra mae'r Skagerrak yn y gogledd a'r Kattegat i'r dwyrain.

Jylland

Mae rhan fwyaf gogleddol Jylland, Vendsyssel-Thy, yn ynys, a wahenir oddi wrth y gweddill o Jylland gan y Limfjord. Mae Jylland yn ardal o wastadedd gyda rhai bryniau isel, ac arwynebedd o 29,775 km2. Roedd poblogaeth y rhan Ddanaidd yn 2007 yn 2,513,601.

Dinasoedd ar Jylland golygu