Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grewyd gan Satoshi Tajiri yw Jynx (Japaneg: ルージュラ - Rūjura). Mae Jynx yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga, y gemau fideo, a ddiolch i ei ymddangosiad anarferol.

Jynx

Cymeriad golygu

Daw'r enw Jynx o'r gair Saesneg jinx (melltith o lwc gwael). Daw'r enw Japaneg o'r gair rouge (sef fath o golur, yn gyfeirio at ei siâp fenywol). Cafodd Jynx ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon) a mae'n cael ei leisio yn yr anime gan Mayumi Tanaka.

Ffisioleg golygu

Mae Jynx (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon /seicig sydd yn edrych fel ddynes swmpus. Mae gan Jynx gyrff coch sydd yn debyg i ynau, breichiau gwyn a dwylo porffor. Mae gan Jynx wynebau porffor, gwefysau coch, llygaid llygadrwth a gwallt hir, blonden. Yn wreiddiol roedd gan Jynx wynebau duon ond profwyd hyn yn ddadleuol iawn.

Ymddygiad golygu

Bydd Jynx yn defnyddio telepathi wrth hela neu ymladd a mae hefyd ganddyn nhw bŵer dros ac eira. Gall Jynx wneud i eu hysglyfaeth syrthio i gysgu gan ddefnyddio eu pwerau seicig.

Cynefin golygu

Mae gwell gan Jynx hinsoddau rhewllyd ac oer, megis dwfn yn ogofâu neu ar gopaon mynyddoedd.

Diet golygu

Mae Jynx yn bwyta pysgod, ffrwythau, aeron a llysiau.

Effaith ddiwyllianol golygu

 
Portread gwreiddiol Jynx, caiff ei weld fel ystrydeb hiliol negyddol o bobl groenddu

Yn wreiddiol roedd gan Jynx debygolrwydd cryf iawn i berfformiadwyr 'black-face'. Cafodd dadl cryf ei rhoi i ddweud bod parodi o'r rhediadau ffasiwn Japaneg Ganguro ac Yamanba (a oedd yn boblogaidd iawn yn Japan wrth i Pokémon ddechrau) oedd Jynx. Wrth i Pokémon dod yn fwy poblogaidd yn yr Unol Daleithiau, cafodd llawer o bobl eu digio gan ymddangosiad Jynx. Yn enwedig, gwnaeth awdur Americanaidd Carole Boston Weatherford gyhuddiad bod y cymeriad yn ystrydeb hiliol o bobl groenddu mewn erthygl o'r enw "Politically Incorrect Pokémon" a brintwyd yn y cylchgrawn Black World Today ar ôl i'r episod Holiday Hi-Jynx (ルージュラのクリスマス Rūjera no Kurisumasu) gael ei ddarlledu yn Ne America ar yr unfed ar ddeg o Ragfyr 1999. Fel ymateb i hyn, newidodd Nintendo lliw gwynebau Jynx o ddu i borffor yn y cyfres gemau a'r anime.

Ieithoedd gwahanol golygu

  • Almaeneg: Rossana - o Rosa (pinc)
  • Ffrangeg: Lippoutou - o'r geiriau Saesneg lip (gwefus) a pout (monniad)
  • Coreeg: 루주라 Rujura