Lleolir talaith Kars yn nwyrain Twrci. Ei phrifddinas yw Kars. Mae'n rhan o ranbarth Doğu Anadolu Bölgesi (Dwyrain Anatolia) ac mae'n gorwedd am y ffin ag Aserbaijan. Poblogaeth: 325,016 (2009).

Kars
MathTaleithiau Twrci Edit this on Wikidata
PrifddinasKars Edit this on Wikidata
Poblogaeth288,878 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAğrı Subregion Edit this on Wikidata
SirTwrci Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd9,442 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.4547°N 43.0603°E Edit this on Wikidata
Cod post36000–36999 Edit this on Wikidata
TR-36 Edit this on Wikidata
Map

Ceir canran sylweddol o Cyrdiaid yn byw yn nhalaith Kars, sy'n dalaith fynyddig. Yn hanesyddol, mae gan Kars gysylltiad cryf gyda Armenia. Ceir un o'r enghreifftiau gorau o eglwys Armeniaidd hynafol yn Ani, a fu ar un adeg yn brifddinas Teyrnas Armenia.

Llifa afon Kura, sy'n tarddu yn y mynyddoedd, trwy'r dalaith. Ceir sawl llyn, yn cynnwys Llyn Çıldır.

Lleoliad talaith Kars yn Nhwrci
Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.