Biocemegydd o Bwyliad oedd Kazimierz Funk neu Casimir Funk yn Saesneg (23 Chwefror 188419 Tachwedd 1967)[1] oedd un o'r gwyddonwyr cyntaf i ddatblygu'r cysyniad o fitaminau; y termau a ddefnyddiodd ef oedd "vital amines" a "vitamines".[2] Honna'r 'Gorllewin' yn aml mai ef oedd y cyntaf.[3]

Kazimierz Funk
Ganwyd23 Chwefror 1884 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
Bu farw20 Tachwedd 1967 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Albany, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bern Edit this on Wikidata
Galwedigaethbiocemegydd, cemegydd Edit this on Wikidata

Yn 1910 roedd y gwyddonydd Umetaro Suzuki o Japan wedi llwyddo i elldynnu hylif llawn maetholion allan o uwd reis gan ei alw'n "asid aberig", ond ni soniwyd fod ei ddarganfyddiad yn newydd sbon pan gyfieithwyd ei waith i'r Almaeneg. Yn 1935 sylweddolwyd mai'r fitamin thiamin oedd ei ddarganfyddiad mewn gwirionedd.

Wedi darllen gwaith yr Iseldirwr Christiaan Eijkman, a soniodd pobl a oedd yn bwyta reis brown yn llai tebygol o gael beri-beri na phobl a oedd yn bwyta reis wedi'i falu'n uwd, aeth ati i geisio darganfod pam. Llwyddodd yn 1912 i wneud hynny a gan fod y grŵp hwnnw'n cynnwys amin, galwodd y maetholion hyn yn "fitamin" (ond a ail-enwyd yn ddiweddarach yn "fitamin B3" (niacin); credodd ef ei hun ei fod wedi darganfod thiamin (vitamin B1) gan ei ddisgrifio fel "ffactor gwrth-beri-beri". Gwnaeth y ddamcaniaeth y gellid gwella afiechydon eraill megis y llechau (rickets), pelagra, y clefyd seliag a'r clefri poeth (neu 'sgyrfi') drwy gymryd fiteminau.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Casimir Funk: A Biographical Sketch. Journal of Nutrition. Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2014.
  2. http://www.jinfo.org/Biomedical_Scientists.html
  3. Just The Facts: Inventions & Discoveries (School Specialty Publishing, 2005)
  4. Casimir Funk, "The etiology of the deficiency diseases. Beri-beri, polyneuritis in birds, epidemic dropsy, scurvy, experimental scurvy in animals, infantile scurvy, ship beri-beri, pellagra", Journal of State Medicine 20 (1912):341–68
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: