Gwleidydd Cymreig yw Keith Davies. Roedd yn Aelod Cynulliad Llafur dros Lanelli rhwng Mai 2011 a Ebrill 2016.

Keith Davies
Keith Davies


Cyfnod yn y swydd
6 Mai 2011 – 5 Ebrill 2016

Geni
Sir Gaerfyrddin
Plaid wleidyddol Llafur
Priod Heddyr

Bu Davies yn gyfarwyddwr addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin, ond collodd ei swydd yn 2000 pan unwyd yr Adran addysg gyda'r Adran Datblygu Cymunedol. Roedd yn un o chwech wnaeth gynnig am y swydd newydd ond ni chafodd ei benodi.

Yn 2004 cafodd ei ethol yn Gynghorydd Sir i Lafur dros ward Hengoed. Collodd y sedd i Blaid Cymru yn 2008.

Yng ngwanwyn 2012 cafodd Pwyllgor Safonau a'r Comisiynydd Safonau fod Keith Davies wedi dwyn anfri ar y Cynulliad Cenedlaethol ac wedi torri'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau Cynulliad yn dilyn ffrae rhyngddo fe a staff gwesty pum seren yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore.

Cyfeiriadau golygu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Helen Mary Jones
Aelod Cynulliad dros Lanelli
20112016
Olynydd:
Lee Waters


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.