Tafleisiwr Seisnig oedd Keith Shenton Harris (21 Medi 194728 Ebrill 2015), a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei rhaglen deledu The Keith Harris Show (1982–90), recordiadau sain ac ymddangosiadau mewn clybiau gyda'i bypedau Orville yr Hwyaden a Cuddles y Mwnci. Cafodd sengl yn siartiau 40 Uchaf y DU y 1982 gyda "Orville's Song" a gyrhaeddodd rhif 4 yn y siartiau.

Keith Harris
Ganwyd21 Medi 1947 Edit this on Wikidata
Lyndhurst Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 2015 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Blackpool Edit this on Wikidata
Label recordioBBC Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethpypedwr, cyflwynydd teledu, canwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.keithharrisandorville.co.uk Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Roedd Harris yn byw gyda'i bedwaredd wraig, Sarah, a'u dau blentyn ifanc, yn Poulton-le-Fylde ger Blackpool, lle'r oedd arfer berchen ar glwb nos. Roedd yn arfer bod yn briod i'r gantores Jacqui Scott, enillydd sioe dalent ar y BBC yn 1979 a geisiodd ar gystadleuaeth A Song For Europe gyda'i chyfansoddiad ei hun. Roedd ganddynt un plentyn.

Ar ôl cael diagnosis o ganser yn 2013, cafodd Harris cemotherapi ac fe dynnwyd ei ddueg. Fe aeth yn ôl i weithio wedi hynny ond fe ddychwelodd y canser yn 2014 a bu farw ar 28 Ebrill 2015 yn 67 mlwydd oed yn Ysbyty Blackpool Victoria.[1][2][3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Entertainer Keith Harris dies at 67 BBC News 28 April 2015
  2. "Secret weapon that gave Keith Harris and Orville humanity and appeal". Guardian. 28 April 2015. http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2015/apr/28/secret-weapon-keith-harris-orville-humanity-appeal. Adalwyd 28 April 2015.
  3. Jenn Selby (28 April 2015). "Keith Harris dead: Orville the Duck ventriloquist dies aged 67 following battle with cancer". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-25. Cyrchwyd 2016-03-21.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.