Roedd Kenji Nagai (長井 健司) (27 Awst 195727 Medi 2007) yn ffoto-ohebydd o Japan a gafodd ei saethu a'i ladd ym Myanmar yn ystod y gwrthdystiadau yn erbyn llywodraeth Byrma yn 2007. Parhaodd Nagai i dynnu lluniau wrth iddo gorwedd ar y stryd ar ôl cael ei saethu, wedyn bu farw yno o'i glwyfau. Y fo oedd y dinesydd cyntaf o dramor i farw yn y gwrthdystiadau.[1]

Kenji Nagai
Ganwyd27 Awst 1957 Edit this on Wikidata
Imabari Edit this on Wikidata
Bu farw27 Medi 2007 Edit this on Wikidata
Yangon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Tokyo Keizai University Edit this on Wikidata
Galwedigaethffotograffydd, newyddiadurwr, ffotonewyddiadurwr, ffotografydd rhyfel Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Magwyd Kenji Nagai yn Imabari, Ehime, Japan, a graddiodd o Ysgol Gyfun Imabari Nishi. Aeth Nagai i astudio ym Mhrifysgol Tokyo Keizai, ac ar ôl graddio bu iddo astudio am flwyddyn yn yr Unol Daleithiau. Wedi iddo ddychwelyd i Japan gweithiodd mewn swydd rhan amser cyn dechrau gyrfa fel newyddiadurwr annibynnol.[2]

Cafodd waith fel ffoto-ohebydd cytundebol ar gyfer Newyddion APF, Tokyo, swydd lle roedd Nagai yn teithio'n aml i leoedd peryglus fel y Dwyrain Canol. O 1997 tan ei farwolaeth, cymerodd Nagai penodiadau yn Affganistan, Palesteina, ac Irac, yn tynnu ffotograffau oedd yn dangos hanfod rhyfel.

Cyrhaeddodd Nagai Myanmar dau ddiwrnod cyn i'r llywodraeth ddechrau ymosod ar mynachod Bwdhaidd oedd yn gwrthdystio yn erbyn y jwnta milwrol sydd wedi rheoli'r wlad ers disodli'r llywodraeth ddemocrataidd mewn gwrthryfel ym 1962.[3] Dechreuodd y gwrthdystiadau yn sgil penderfyniad y llywodraeth i godi pris petrol, and daeth yn rali enfawr gyda degoedd o filoedd o bobl yn ymuno â'r mynachod i orymdeithio dros ddemocratiaeth ar hyd strydoedd Yangon.[4]

Yn ôl The Times, dywedodd un o gydweithwyr Nagai fod y ffoto-ohebydd "yn ddiwrthdro" wrth ddilyn stori, gan gredu bod angen iddo deithio "i'r lleoedd lle nad oedd neb eisiau mynd."

Marwolaeth golygu

 
Nagai ar ôl cael ei saethu gan filwyr Byrma, ei gamera yn dal yn ei ddwylo.

Roedd Nagai wedi bod ym Myanmar yn dilyn stori y gwrthdystiadau yn erbyn y llywodraeth ers dydd Mawrth, 25 Medi. Ar ddydd Iau, 27 Medi, roedd Nagai yn tynnu lluniau o'r gwrthdystiadau ger Gwesty Tarder, nid nepell o Bagoda Sule yng nghanol Yangon,pan ddechreuodd milwyr danio ar y gwrthdystwyr, yn lladd Nagai.[5][6]

Gwadodd awdurdodau Myanmar bod Nagai wedi cael ei saethu yn fwriadol, ond cafwyd o hyd at fideo sy'n dangos un o filwyr Byrma yn gwthio Nagai i'r llawr a'i saethu. [4] Times on Line. 2007-09-28

Cyfeiriadau golygu

  1. "Agence France-Presse 2007-09-28". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-06-09. Cyrchwyd 2007-06-09.
  2. [1] The Daily Yomiuri 2007-09-29
  3. [2] AP 2007-09-29
  4. [3][dolen marw] BBC/AP 2007-09-29
  5. BBC 2007-09-29
  6. Dangosodd Fuji Television lun ar ei wefan o'r Nagai clwyfedig yn gorwedd ar ei gefn, gyda camera fideo yn ei law wrth i filwyr anelu ei wn ato yn agos iawn iddo.

Dolenni allanol golygu

Fideo golygu