Dinas hynafol ym Moroco yw Khénifra (Amazigh Xnifra, Arabeg: خنيفرة). Fe'i lleolir yng ngogledd canolbarth y wlad i'r gorllewin o fynyddoedd yr Atlas Canol. Poblogaeth: 77,000 (cyfrifiad 2004).

Khénifra
Mathdinas, urban commune of Morocco, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth117,510 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Khénifra Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr860 metr Edit this on Wikidata
GerllawOum Er-Rbia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.93°N 5.66°W Edit this on Wikidata
Cod post54000 Edit this on Wikidata
Map
Pont ganoloesol yng nghanol y ddinas

Khénifra yw canolfan draddodiadol y Zayanes, un o lwythau Berber Moroco. Mae'n gorwedd tua 160 km o Fès a 300 km o Marrakech. Mae'n brifddinas talaith Khénifra (poblogaeth 523,000) yn rhanbarth Meknès-Tafilalet.

Mae'r afon Oum Er-Rbia ('Mam y Gwanwyn'), un o afonydd mwyaf Moroco, yn tarddu yn yr Atlas Canol tua 40 km o Khénifra ac yn llifo trwy'r ddinas ac wedyn ar gwrs gorllewinol i gyrraedd y Cefnfor Iwerydd ger Azemmour.

Mae mwyafrif y boblogaeth yn bobl Berber ac yn siarad Amazigh/Tamazigh, un o'r ieithoedd Berber.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato