Prif dref yn Ynysoedd Erch, yr Alban, yw Kirkwall[1] (Sgoteg: Kirkwal).[2] Saif ar arfodir gogleddol y brif ynys, Mainland, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 8,500. Mae'n borthladd pwysig, gyda chysylltiadau fferi ag Aberdeen a Lerwick.

Kirkwall
Mathtref, bwrdeistref fach Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,420 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd Erch Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd3.63 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau58.9811°N 2.96°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000292, S19000321 Edit this on Wikidata
Cod OSHY449109 Edit this on Wikidata
Cod postKW15 Edit this on Wikidata
Map

Ceir y cofnod cyntaf am y lle yn yr Orkneyinga Saga yn 1046. Yma roedd canolfan Ragnald II, a lofruddiwyd gan ei olynydd, Thorfinn. Adeilad mwyaf nodedig y ddinas yw Eglwys Gadeiriol Sant Magnus.

Eglwys Gadeiriol Sant Magnus

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Amgueddfa Kirkwall
  • Eglwys Gadeiriol Sant Magnus
  • Eglwys Sant Olaf
  • Neuadd y Dref
  • Palas yr Esgob
  • Palas yr Iarll

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 15 Ebrill 2022
  2. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 15 Ebrill 2022