Milwr Americanaidd oedd Christopher Houston "Kit" Carson (24 Rhagfyr 180923 Mai 1868) a wasanaethodd ym Myddin yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America. Cafodd Carson ei eni yn Swydd Madison, Kentucky, yn fab milwr.

Kit Carson
Ganwyd24 Rhagfyr 1809 Edit this on Wikidata
Richmond Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 1868 Edit this on Wikidata
Fort Lyon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
llofnod

O ganlyniad i'w sgiliau fel coedwigwr a dyn y cefn gwlad a'i wybodaeth o natur a'r Americanwyr Brodorol, daeth Carson yn destun nifer o straeon gwerin Americanaidd.[1] Mae cymeriad sy'n seiliedig arno yn ymddangos yn y nofel I Ble'r Aeth Haul y Bore? gan Eirug Wyn.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Alison. Larousse Dictionary of World Folklore (Caeredin, Larousse, 1995), t. 95 [Carson, Kit].
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.