Kookaburra

genws o adar
Am y gân i blant, gweler Kookaburra (cân).
Kookaburra
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Coraciiformes
Teulu: Alcedinidae
Genws: Dacelo
Rhywogaeth: Novaeguineae
Enw deuenwol
Dacelo novaeguineae
(Leach, 1815)

Glas y Dorlan mwyaf yn y byd yw cwcabyra, a gallu bod yn 18 modfedd (45 centimedr) o hyd. Lleolir yn wreiddiol yng nghoedwigoedd ewcalyptws o ddwyrain Awstralia, ond gwelir erbyn hyn yng ngornel dde-orllewinol o'r dalaith Gorllewin Awstralia ac wedi fynnu mewn trefi.

Rhyddhawyd sawl llwyth o Awstralia yn Seland Newydd rhwng 1866 a 1880. Mae poblogaeth weddol sefydlog wedi goroesi ar lan gorllewinol Gwlf Hauraki. Weithiau, mae crwydriaid yn cyrraedd Ynys Little Barrier, Auckland, Kaipara a Whangarei.

Mae eu bwyd yn amrywiol, ac yn cynnwys madfallod, nadroedd, pryfed, llygod a physgod. Maen nhw'n dodwy rhwng 1 a 5 o wyau, yn y gwanwyn. Gwarchodir y wyau gan grŵp o rieni a siblingiaid hŷn.

Mae yna fath arall o Kookaburra (Dacelo leachii) sydd yn byw yng Ngogledd Awstralia, a dau arall, Dacelo gaudichaud a Dacelo tyro, sydd yn byw yn Gini Newydd.

Cyfeiriadau golygu