Mae Krampus yn greadur anifeilaidd dychmygol sy'n ymddangos mewn llên gwerin Ewropeaidd. Yn ôl llên gwerin, cosba blant sy'n camymddwyn yn ystod cyfnod y Nadolig. Gellir cymharu hyn â Sant Nicolas (neu Siôn Corn), sy'n gwobrwyo plant da ag anrhegion. Dywedir i Krampus ddal plant drwg iawn yn ei sach a'u mynd â nhw i'w loches.

Krampus
Enghraifft o'r canlynolfigure used in threatening children, cymeriadau chwedlonol, folklore character, Q2104078 Edit this on Wikidata
Rhan oCompanions of Saint Nicholas Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Krampus a Sant Nicolas yn ymweld â chartref Fiennaidd ym 1896

Portreadir Krampus yn greadur anifeilaidd, fel arfer yn gythraulaidd yn ei olwg. Mae ganddo'i darddiadau cyn-Gristnogol yn llên gwerin Almaenaidd; er hynny, mae ei ddylanwad y tu hwnt i ffiniau'r Almaen. Mae'n draddodiad i ddynion ifainc wisgo fel Krampus yn Awstria, de Bafaria, Talaith Bolzano , gogledd Friuli, Hwngari, Slofenia a Croatia yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, yn enwedig noswaith pumed mis Rhagfyr (noswyl Dydd Gŵyl Nicholas mewn llawer o eglwysi), a chrwydro'r strydoedd dan godi ofn ar blant gyda chadwynau a chlychau rhydlyd. Gellir gweld Krampus ar gardiau cyfarchion o'r enw Krampuskarten (Cardiau Krampus). Mae llawer o enwau ar Krampus, yn ogystal ag amrywiadau rhanbarthol.