Teisen draddodiadol Danaidd yw Kransekage (yn llythrenol teisen gylch) a Norwyaidd (kransekake), a fwyteir fel rheol mewn digwyddiadau arbennig fel priodas, bedydd, y Nadolig a Noson Calan. Ffurfir kransekage allan o gyfres o gylchoedd consentrig o deisen a osodir ar ben ei gilydd i ffurfio siap pigwn serth. Fe’i gwneir o almon, siwgr a gwynwy (marsipan). Mae’r kransekage delfrydol yn galed wrth ei gyffwrdd, ond yn feddal wrth ei gnoi. Gelwir y math gwreiddiol, a ddefnyddir mewn priodasau, yn overflødighedshorn (corn llawnder) ac fe’i llenwir gyda siocled a bisgedi. Weithiau, mae potel o win yn cael ei gosod yn y canol.

Kransekage mewn priodas

Dolenni allanol golygu