System eclectig o hunan-amddiffyn anghystadleuol sy'n tarddu o Israel yw Krav Maga (Hebraeg: קרב מגע, "brwydro cyffyrddiad") sy'n cynnwys technegau taro, gafael, ac ymgodymu. Mae'n canolbwyntio ar sefyllfaoedd realistig a defnyddio gwrth-ymosodiadau grymus ac effeithlon. Datblygodd y grefft ymladd hon o sgiliau ymladd y stryd Imi Lichtenfeld, paffiwr ac ymgodymwr a amddiffynodd ardal Iddewig Bratislava rhag grwpiau ffasgaidd yn y 1930au. Yn y 1940au diweddar, wedi iddo ymfudo i Israel, dechreuodd rhoi gwersi ymladd i Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) ac yn hwyrach datblygwyd system Krav Maga. Addaswyd y system ar gyfer lluoedd milwrol, yr heddlu, a sifiliaid.

Gwers Krav Maga mewn ysgol awyrfilwyr yn Israel, 1955.

Mae gan Krav Maga athroniaeth sy'n pwysleisio niwtraleiddio bygythiadau, symudiadau amddiffynnol ac ymosodol ar y cyd, ac ymosodedd. Defnyddir Krav Maga gan luoedd rheolaidd ac arbennig yr IDF, Mossad, Shin Bet, CIA, FBI, Marsialiaid yr Unol Daleithiau, Awyrlu'r Unol Daleithiau, DEA, Marsialiaid yr Awyr, nifer o heddluoedd a thimoedd SWAT, GIGN, Byddin Gwlad Belg, ac eraill. Mae nifer o sefydliadau ar draws y byd yn addysgu Krav Maga neu fersiynau amrywiol ohono i unigolion.

Dolenni allannol golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Archifwyd 2016-06-21 yn y Peiriant Wayback. (IKMA) founded in 1978 by Krav Maga founder Imi Lichtenfeld.