Papur newydd chwaraeon dyddiol Ffrangeg ydy L'Équipe (sy'n golygu tîm yn Ffrangeg). Mae'r papur yn nodweddiadol oherwydd ei ymdriniaeth â pêl-droed, rygbi, chwaraeon modur a seiclo.

L'Équipe
Math Papur newydd chwaraeon dyddiol
Golygydd Claude Droussent
Sefydlwyd 16 Hydref 1900
Pencadlys Paris
Gwefan swyddogol (Ffrangeg) lequipe.fr

Hynafaid y papur oedd L'Auto a sefydlwyd 16 Hydref 1900, papur chwaraeon cyffredinol, roedd ei enw yn adlewyrchu nid pwnc diddordeb unigol ond y brwdfrydedd am y chwaraeon hyn ar y pryd.

Sefydlodd y papur ras seiclo'r Tour de France yn 1903 fel ffurf o godi gwerthiant. Sefydlwyd y maillot jaune, sef crys melyn arweinydd y ras, yn 1919 i adlewyrchu lliw nodweddiadol a y papur a argraffwyd arni.

Cyfartaledd Gwerthiant golygu

  • 2000: 386,601
  • 2001: 359,598
  • 2002: 321,153
  • 2003: 339,000 (tua)

L'Équipe ydy un o papurau sy'n gwerthu fwyaf yn Ffrainc.

Hanes golygu

Daeth L'Auto ac felly L'Équipe i'r bod oherwydd sgandal Ffrengig Achos Dreyfus yn ystod yr 19g yn ymglymu â milwr, Alfred Dreyfus - sef Helynt Dreyfus. Gyda uwchdonau o wrth-semitiaeth a paranoia ar ôl y rhyfel, cyhuddwyd Dreyfus o werthu cyfrinachau i hen elyn Ffrainc, yr Almaen.

Gyda sawl ochr o gymdeithas yn mynnu ei fod yn euog ac yn ddi-euog - profwyd ef yn ddi-euog yn y pen draw ond ddim ond ar ôl i achosion llys a oedd wedi eu rigio ei anfod i wersyll carchar ar ynys - daeth y rhwyg yn agos at ryfel cartref, ac mae atseiniau'n dal i fod yng nghymdeithas cyfoes Ffrainc heddiw.

Roedd papur newydd mwyaf Ffraic, Le Vélo, yn cymysgu gohebiaeth o chwaraeon gyda sylwadau gwleidyddol. Roedd y golygydd, Pierre Giffard, yn credu fod Dreyfus yn ddi-euog a datgaodd hynnu, gan arwain at anghytuno chwerw gyda'i brif hysbysebwyr. Ymysg rhain roedd y gweuthurwr ceir, Comte de Dion a'r diwydiannwr, Clément. Wedi llesteirio gyda gwleidyddiaeth Giffard, cynlluniont bapur cystadleuol. Y golygydd oedd y seiclwr rasio blaenllaw, Henri Desgrange, a oedd wedi cyhoeddi llyfr o dactegau rasio ac ymarfer ac yn gweithio fel ysgrifennwr cyhoeddusrwydd ar gyfer Clément. Roedd Desgrange yn gymeriad cryf ond â diffyg hyder, roedd cymaint o amheuaeth ganddo yn y Tour de France, a sefydlwyd yn ei enw, ag arhosodd i ffwrdd o'r ras yn 1903 tan iddi edrych fel llwyddiant.

Roedd y diffyg hyder yn amlwg yn yr enw a ddewiswyd ar gyfer ei bapur newydd, L'Auto-Vélo, a penderfynnodd y llys tair mlynedd wedi ei sefydlu, yn 1900, fod yr enw yn rhy debyg i bapur Giffard. Disgynnwyd y cyfeiriad at 'Vélo' a daeth y papur yn syml L'Auto. Argraffwyd hi ar bapur melyn gan y defnyddiodd Giffard wyrdd.

Ond roedd y cylchrediad yn araf, dim ond cyfarfod argyfwng, "i hoeli pig Giffard yn gau", fel eiriodd Desgrange, a ddaeth iw hachub. Yna, ar lawr cyntaf swyddfeydd y papur yn Rue du Faubourg-Montmartre ym Mharis, cynnigiodd ysgrifennwr seiclo a rybgi 23 oed o'r enw Géo Lefèvre, ras ogwmpas Ffrainc, yn fwy na all unrhyw bapur arall gystadlu gyda ac yn debyg i rasus chwe diwrnod ar y trac.

Profodd y Tour de France i fod yn llwyddiant i'r papur; neidiodd y cylchrediad o 25,000 cyn Tour de France 1903 i 65,000 ar ei hôl; yn 1908 gwthiodd y ras y cylchrediad dros chwarter miliwn ac yn ystod Tour de France 1923, roedd yn gwerthu dros 500,000 copi y diwrnod. Y record am y gwerthiant mwyaf a honwyd gan Desgrange oedd 854,000, a gyflawnwyd yn ystod Tour de France 1933.

Bu farw Desgrange yn 1940 a disgynodd y perchnogaeth i gydgwmni o Almaenwyr. Dechreuodd y papur argraffu sylwebaeth nad oedd yn erbyn meddianaeth y Naziaid a hoelwyd drysau'r papur ar gau gyda dychwelyd heddwch, ni adawyd i unrhyw bapur a oedd wedi ei redeg gan yr Almaenwyr i barhau.

Y dyn i olynu Desgrange fel golygydd a trefnydd y Tour de France (er gwrthododd dymuniad gan Almaenwyr iw redeg yn ystod y rhyfel), oedd Jacques Goddet, mab cyfarwyddwr ariannol cyntaf L'Auto', Victor Goddet. Amddifynodd Goddet rôl ei bapur mewn achos llys a dechreuwyd gan llywodraeth Ffrainc ond ni glirwyd ef yn llwyr yn gyhoeddus o fod yn agos, os nad at yr Almaen ond at y 'Llywydd Pyped' ar y pryd, Philippe Pétain.

Ond gallodd Goddet bwyntio tuag at argraffu dirgel o bapurau newydd a pamffledi'r Fyddin Gêl yn ystafell argraffu L'Auto a gadawyd iddo gyhoeddi papur golynol L'Équipe. Roedd ei swyddfeydd dros y ffordd i hen swyddfeydd L'Auto, roedd yr adeilad yn berchen i L'Auto, er fod asedau'r papur gwreiddiol wedi eu cymryd gan y wladwriaeth.

Un o'r amodau o'i argraffu oedd y dylai L'Équipe ddefnyddio papur gwyn yn hytrach na melyn, a oedd wedi ei gysylltu'n rhy agos â L'Auto.

Cyhoeddwyd y papur newydd dair gwaith yr wythnos o 28 Chwefror 1946 ymlaen. Ers 1948 cyhoeddwyd hi'n ddyddiol. it has been published daily. Elwodd y papur yn uniongyrchol o gymuniad ei gystadleuwyr, l’Élan, a le Sport. Hon yw'r papur sydd â'r gwerthiant mwyaf yn Ffrainc. Mae adran chwaraeon modur y papur yn awgrymu hanes y papur gan argraffu L'Auto fel pennawd ar dop y dudalen mewn print gothig a ddefnyddwyd ym mhrif deitl y papur cyn y rhyfel.

Cyhoeddwyd L'Équipe gan grŵp y cyfryngau, EPA (Philippe Amaury Publications) ers 1968 (ers 1992, trefnwyd y Tour de France gan yr Amaury Sport Organisation).

"Pencampwr y Pencampwyr" golygu

Rhyngwladol golygu

Nodir: Dim ond pump chwaraewr sydd wedi ennill y wobr mwy nag unwaith: Michael Schumacher (3), Carl Lewis (3), Roger Federer (3), Sergei Bubka (2) ac Usain Bolt (2).

Achos Lance Armstrong golygu

Gweler y brif erthygl ar: Lance Armstrong

Ar 23 Awst 2005, cyhuddodd y papur Lance Armstrong o gymryd cyffuriau gwella-perfformiad o oedd wedi eu gwahardd, EPO, yn ystod Tour de France 1999. Gwadodd Armstrong y honiadau, ymchwilwyd yr achos gan yr Union Cycliste Internationale. Ym Mai 2006, cyhuddodd comissiwn yr UCI y newyddiadurwyr o ddefnyddio dulliau llechwraidd, a heb prawf sampl B positif, doedd dim achos i'w ateb.