L'Hospitalet de Llobregat

Dinas yng Nghatalwnia yw L'Hospitalet de Llobregat (Sbaeneg: Hospitalet de Llobregat). Saif yn Nhalaith Barcelona, ar lan afon Llobregat. Gyda phoblogaeth o 253,782 yn 2008, hi yw ail ddinas Catalwnia o ran poblogaeth, ar ôl Barcelona. Mae dwysder y boblogaeth yn 21,174 o drigolion y km sgwar, un o'r ffigyrau uchaf yn Sbaen ac yn Ewrop.

l'Hospitalet de Llobregat
Mathbwrdeistref yng Nghatalwnia, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Llobregat Edit this on Wikidata
Poblogaeth274,455 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNúria Marín Martínez Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iTuzla, Baiona Edit this on Wikidata
NawddsantEulàlia de Barcelona Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Catalaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBarcelonès, Talaith Barcelona Edit this on Wikidata
GwladBaner Catalwnia Catalwnia
Arwynebedd12.4 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Llobregat, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBarcelona, El Prat de Llobregat, Cornellà de Llobregat, Esplugues de Llobregat Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.3589°N 2.0992°E Edit this on Wikidata
Cod post08900–08909 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer y Dref Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNúria Marín Martínez Edit this on Wikidata
Map
Neuadd y Ddinas

Ymddengys enw gwreiddiol y ddinas, Provençana, yn y 10g. TYfodd y ddinas bresennol o'r 12g ymlaen, o gwmpas eglwys Santa Eulalia de Provençana a'r Hospital de la Torre Blanca. Tyfodd y boblogaeth yn fawr yn y 1960au a'r 1970au, gyda llawer o fewnfudwyr o rannau eraill o Sbaen.