Tref a chymuned yng ngogledd Tiwnisia yw La Soukra (Arabeg: سكرة). Fe'i lleolir yn nhalaith Ariana tua 6 km i'r gogledd-orllewin o ganol dinas Tiwnis, prifddinas Tiwnisia. Poblogaeth y dref: 15,000 (2004). Poblogaeth y gymuned: 89,151 (2004).

La Soukra
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAriana Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.88°N 10.25°E Edit this on Wikidata
Map

Erbyn hyn mae La Soukra yn un o faesdrefi Tiwnis, er nad ydyw'n rhan o dalaith Tiwnis. Mae'n gorwedd rhwng Ariana a La Marsa ger Maes Awyr Rhyngwladol Tiwnis-Carthago. Rhennir y gymuned yn sawl ardal, sef Chotrana, Sidi Salah, Sidi Fradj, Jamâa Rawdha, Chick El Arab a Dar Faddal.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.