Tad Noa yn yr Hen Destament a'r Torah oedd Lamech (weithiau Lemech). Yn ôl un achres mae'n fab Methusael ac yn un o ddisgynyddion Cain, ond yn ôl achres arall mae'n fab i Fethusela o linach Seth; credir fod y dryswch yn codi o ddau draddodiad cynnar am darddiad y ddynolryw.

Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis lle priodolir iddo "Cân y cledd". Mae'n dad i Noa yn ôl un o'r achresi (Gen 5:25-31) ond yn ôl yr achres arall (Gen 4:18-14) roedd yn dad i Isbal, Iwbal Twbal-Cain a Naama.

Cyfeiriadau golygu

  • Thomas Rees ac eraill (gol.), Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), Cyfrol II, d.g. Lamech.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iddewiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.