Las Palmas de Gran Canaria

Las Palmas de Gran Canaria, a adwaenir yn aml fel Las Palmas yw dinas fwyaf yr Ynysoedd Dedwydd a'r nawfed dinas yn Sbaen o ran poblogaeth. Saif yng ngogledd-ddwyrain ynys Gran Canaria. Hi yw prifddinas yr ynys a phrifddinas talaith Las Palmas, yn ogystal â bod yn brifddinas Cymuned Ymreolaethol yr Ynysoedd Dedwydd ar y cyd gyda Santa Cruz de Tenerife. Roedd y boblogaeth yn 377,203 yn 2007.

Las Palmas de Gran Canaria
Mathbwrdeistref Sbaen, cyrchfan i dwristiaid Edit this on Wikidata
PrifddinasLas Palmas de Gran Canaria Edit this on Wikidata
Poblogaeth378,027 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1833 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAugusto Hidalgo Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
NawddsantCristo de la Vera Cruz (Las Palmas de Gran Canaria), Ann Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLas Palmas Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd100.55 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaArucas, Santa Brígida, Las Palmas, Telde, Teror Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau28.1272°N 15.4314°W Edit this on Wikidata
Cod post35001–35020 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Las Palmas de Gran Canaria Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAugusto Hidalgo Edit this on Wikidata
Map
Parque San Telmo, Las Palmas

Dyddia sefydliad y ddinas i 1478, pan ddechreuodd Juan Rejón ar goncwest Gran Canaria i Goron Sbaen. Galwodd Christopher Columbus yna yn Awst 1492 i drwsio ei longau, ar ei ffordd i ddarganfod y Byd Newydd.