Gwefan gerddoriaeth gymunedol yw Last.fm. Fe'i sefydlwyd yn 2002 a heddiw mae dros 30 miliwn pobl o 200 gwlad yn ei ddefnyddio.[1] Ar 30 Mawrth 2007, fe brynwyd y cwmni gan CBS Interactive am £140m ($280m).[2]

Last.fm
Enghraifft o'r canlynolgwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, Radio rhyngrwyd, online music database, cronfa ddata, Siart recordiau Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu20 Mawrth 2002 Edit this on Wikidata
PerchennogParamount Streaming, Paramount Global Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
RhagflaenyddAudioscrobbler Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.last.fm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r wefan yn defnyddio system o'r enw Audioscrobbler er mwyn argymell cerddoriaeth newydd i ddefnyddiwr. Mae'r system yn adeiladu proffil o'r gerddoriaeth mae defnyddiwr yn gwrando arno naill ai drwy'r gwefan, drwy raglen ar y cyfrifiadur neu ar chwaraewr MP3. Mae'r wybodaeth yma yn cael ei anfon i ddata-bas Last.fm drwy ategyn sydd wedi ei osod ar y cyfrifiadur. Mae'r wybodaeth am gerddoriaeth y mae'r defnyddiwr wedi gwrando arno yn ddiweddar yn cael ei ddangos ar eu tudalen cartref, yn ogystal â cherddoriaeth debyg efallai bydd y defnyddiwr yn hoffi.

Ffynonellau golygu

  1. (Saesneg) Last.fm Radio Announcement.
  2. (Saesneg) CBS ups social networking ante with Last.fm acquisition. Computerworld.com (2007-05-30).
  Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.