Lee Harvey Oswald

Y saethwr cudd a lofruddiodd John F. Kennedy, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn Dallas, Texas, ar 22 Tachwedd 1963 oedd Lee Harvey Oswald (18 Hydref 193924 Tachwedd 1963), yn ôl archwiliadau gan yr FBI ym 1963, Comisiwn Warren ym 1964, Pwyllgor Dethol y Tŷ ar Fradlofruddiaethau ym 1979, ac Adran Heddlu Dallas.

Lee Harvey Oswald
Ganwyd18 Hydref 1939 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Bu farw24 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
Parkland Memorial Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Warren Easton High School
  • Arlington Heights High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweithiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Horizont Edit this on Wikidata
TadRobert Edward Lee Oswald Edit this on Wikidata
MamMarguerite Oswald Edit this on Wikidata
PriodMarina Oswald Porter Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Oswald yn gyn-Fôr-filwr a wnaeth ffoi i'r Undeb Sofietaidd yn Hydref 1959, ond symudodd yn ôl i'r Unol Daleithiau ym Mehefin 1962. Cafodd Oswald ei arestio am lofruddiaeth y heddwas J. D. Tippit, a gafodd ei ladd tua 45 munud wedi bradlofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy. Cafodd Oswald ei gyhuddo'n hwyrach o lofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy hefyd, ond gwadodd y ddau gyhuddiad. Dau ddiwrnod yn hwyrach, tra'n cael ei drosglwyddo o bencadlys Heddlu Dallas i ddalfa'r sir, cafodd Oswald ei saethu'n farw gan Jack Ruby wrth i gamerâu teledu ddarlledu'r digwyddiad yn fyw.

Daeth yr FBI, Heddlu Dallas, a Chomisiwn Warren i'r casgliad y wnaeth Oswald targedu Kennedy ar ben ei hunan, gan danio tair ergyd ato. Er tystiolaeth fforensig, balistig, ac amgylchiadol o blaid y theori hon, mae nifer o'r cyhoedd Americanaidd wedi gwrthod "theori'r un saethwr" (Saesneg: lone gunman theory).[1] Yn ôl adroddiad Pwyllgor Dethol y Tŷ ar Fradlofruddiaethau, Oswald oedd yn gyfrifol am saethu Kennedy'n farw ond "mae tystiolaeth acwstig wyddonol yn dangos tebygolrwydd uchel taw dau saethwr oedd yn saethu at yr Arlywydd John F. Kennedy".[2][3]

Dysgwyd Rwseg i Oswald gan Stanislau Shushkevich, y dyn, a ddaeth maes o law yn Arlywydd gyntaf Belarws ac a lofnododd y Gytundeb Belavezha a ddaeth â'r Undeb Sofietaidd i ben yn 1991.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gallop: Most Americans Believe Oswald Conspired With Others to Kill JFK". Gallup.com. Cyrchwyd 2012-12-24.
  2. "Summary of Findings and Recommendations". Report of the Select Committee on Assassinations of the U.S. House of Representatives. Washington, D.C.: United States Government Printing Office. 1979. t. 3.
  3. House Select Committee on Assassinations Final Report, pp. 65-75.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: