Legio IV Scythica

Lleng Rufeinig oedd Legio IV Scythica, hefyd Parthica. Ffurfiwyd y lleng gan Marcus Antonius yn 42 CC, ar gyfer ei ymgyrch yn erbyn y Parthiaid. Ei symbol oedd y capricorn.

Darn arian a fathwyd gan yr ymerawdwr Philip yr Arab er anrhydedd i'w wraig, Otacilia Severa. Mae'r capricorn ar y cefn yn gyfeiriad at Legio IV Scythica

Wedi mrwydr Actium yn 31 CC, pan orchfygwyd Marcus Antonius gan Augustus, trosglwyddwyd y lleng i dalaith Moesia. Bu Vespasian, a ddaeth yn ddiweddarach yn ymerawdwr, yn gwasanaethu ynddi. Wedi i Vologases I, brenin Parthia ymosod ar Armenia yn 58, gyrrodd yr ymerawdwr Nero y cadfridog Cnaeus Domitius Corbulo yn ei erbyn, gyda Legio IIII Scythica ynghyd â III Gallica a VI Ferrata. Gorchfygasanr y Parthiaid, a dychwelyd Tigranes i orsedd Armenia. Yn 62, dan Lucius Cesenius Paetus, gorchfygwyd hwy gan y Parthiaid ym Mrwydr Rhandeia. Symundwyd y lleng i ddinas Zeugma, lle bu am y ganrif nesaf.

Cefnogodd y lleng Vespasian yn 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, ond ni ddefnyddiwyd hi mewn brwydrau, gan nad oedd yn cael ei hystyried yn un o'r llengoedd gorau. Bu'n ymladd yn erbyn y Parthiaid eto rhwng 181 a 183, dan Septimius Severus, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach.

Yn 219, gwrthryfelodd legad y lleng, Gelius Maximus, yn erbyn yr ymerawdwr Heliogabalus, ond yn aflwyddiannus. Cofnodir i Heliogabalus chwalu'r lleng, ond ceir cyfeiriad ati yn y Notitia Dignitatum, tua 400, yn Sura.