Legio I Germanica

Lleng Rufeinig oedd Legio I Germanica. Ffurfiwyd y lleng gan Iŵl Cesar tua 48 CC, ac mae'n deyg mai eu symbol oedd y tarw. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd am ei blynyddoedd cynnar.

Rhwng 38 a 36 CC, ymladdodd dros Augustus dan Marcus Agrippa yn erbyn Sextus Pompeius yn Sicilia. Mae'n debyg iddi hefyd ymladd dan Agrippa yn erbyn y Cantabriaid yn Hispania Tarraconensis.

O 16 CC hyd 14 O.C., roeddynt yn Oppidum Ubiorum Cwlen heddiw, yn yr Almaen. Mae'n debyg iddynt ymladd dan Tiberius yn Vindelicia yn 15 - 13 CC. Roeddynt yn un o'r llengoedd yn yr Almaen a wrthryfelodd ar farwolaeth Augustus yn 14, ond llwyddodd eu legad Aulus Caecina Severus i'w perswadio i ddychwelyd i'w dyletswydd. Tua 43, symudwyd y lleng i Bonna (Bonn heddiw).

Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Galba yn 69, cefnogodd y lleng Vitellius fel ymerawdwr. Gyrrwyd rhan o'r lleng i'r Eidal dan Fabius Valens, lle ymladdasant ym Mrwydr gyntaf Bedriacum. Pan wrthryfelodd y Batafiaid yr un flwyddyn, gorchfygwyd gweddill y lleng ganddynt yn Bonna. Yn ddiweddarach, cefnogodd y lleng Julius Sabinus ac Ymerodraeth y Galiaid. Chwalwyd y lleng gan Vespasian yn 70 wedi diwedd y gwrthryfel.