Lleng Rufeinig a ffurfiwyd gan Octavian wedi 41 CC oedd Legio XIV Gemina Martia Victrix (Efaill, Rhyfelgar a Buddugol). Fel rheol mae "Efaill" yn y teitl yn awgrymu fod y lleng wedi ei ffurfio trwy uno dwy leng flaenorol. Ychwanegwyd Martia Vicrix gan yr ymerawdwr Nero wedi eu buddugoliaeth dros Buddug (Boudica).

O'r flwyddyn 9OC ymlaen, roedd y lleng ym Moguntiacum, Germania Superior. Yn 43 roedd y XIV Gemina Martia Victrix yn un o bedair lleng a ddefnyddiodd was Aulus Plautius i ymosod ar Brydain yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Claudius. Yn 60 neu 61 bu gan y lleng yma ran flaenllaw yng ngorchfygu gwrthryfel Buddug. Mae'n debyg i'r lleng gymeryd rhan yn yr ymosodiad ar Ynys Môn dan y llywodraethwr Gaius Suetonius Paulinus; a pan gyrhaeddodd y newyddion am wrthryfel Buddug, y XIVeg oedd yr unig leng gyflawn yn y fyddin a arweiniodd Paulinus o Fôn i Lundain cyn ymladd y frwydr derfynol yn erbyn Buddug.

Yn 89 gwrthryfelodd llywodraethwr Germania Superior, Lucius Antonius Saturninus, yn erbyn Domitian, a chefnogwyd ef gan y XIVfed a'r XXI Rapax, ond gorchfygwyd y gwrthryfel.

Pan ddinistriwyd lleng XXI yn 92, gyrrwyd XIV Gemina i Pannonia yn ei lle. Bu'n ymladd yn erbyn y Sarmatiaid a rhyfeloedd Trajan yn erbyn y Daciaid. Symudwyd y lleng i Carnuntum, lle bu am dair canrif. Ymladdodd yn erbyn y Mauri dan yr ymerawdwr Antoninus Pius, ac yn erbyn y Parthiaid dan Lucius Verus. Pan oedd yn ymladd yn erbyn y Marcomanni, Carnutum oedd pencadlys yr ymerawdwr Marcus Aurelius.

Yn 193, wedi marwolaeth Pertinax, cyhoeddwyd pennaeth y XIVeg, Septimius Severus, yn ymerawdwr gan lengoedd Pannonia. Ymladdodd y XIVeg drosto yn erbyn Didius Julianus (193) a Pescennius Niger (194), ac mae'n debyg iddi ymladd yn erbyn y Parthiaid pan gipwyd eu prifddinas, Ctesiphon yn 198.

Ar ddechrau'r 5g roedd y lleng yn dal yn Carnuntum.

Gweler hefyd golygu