Legio XXII Primigenia

Lleng Rufeinig oedd Legio XXII Primigenia ("Y Cyntafanedig"). Ffurfiwyd y lleng gan yr ymerawdwr Caligula yn 39 O.C.. Ei symbolau oedd yr afr a Heracles.

Denarius, a fathwyd yn 193 gan yr ymerawdwr Septimius Severus yn anrhydeddu'r 22ain lleng.

Ffurfiwyd y lleng yma a Legio XV Primigenia gan Caligula ar gyfer ymgyrch newydd yn yr Almaen. Daw'r enw "Primigenia" o um o enwau'r dduwies Fortuna. Wedi'r ymgyrch yma, lleolwyd y lleng ym Mogontiacum (Mainz heddiw).

Yn 69, Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, cefnogodd y lleng Vitellius fel ymerawdwr, fel y gweddill o'r llengoedd ar afon Rhein. Pan wrthryfelodd y Batafiaid yr un flwyddyn, roedd y lleng yma, dan Gaius Dillius Vocula, yn un o'r ychydig lengoedd yn yr Almaen i'w gwrthwynebu'n effeithiol.

Yn 97-98 roedd Hadrian, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach, yn dribwn milwrol yn y lleng yma. Roedd y lleng yn dal ym Mogontiacum yn y 3g, ac yn 235 gwrthryfelodd yn erbyn yr ymerawdwr Severus Alexander, a lofruddiwyd gyda'i fam gerllaw Mogontiacum. Yn 268, ymladdodd dan Gallienus yn mrwydr Naissus yn erbyn y Gothiaid. Y flwyddyn wedyn, daeth legad yr 22ain, Laelianus, yn ymerawdwr Ymerodraeth y Galiaid.