Legio XXX Ulpia Victrix

Lleng Rufeinig oedd Legio XXX Ulpia Victrix ("Lleng fuddugol yr Ulpiaid"). Fe'i ffurfiwyd gan yr ymerawdwr Trajan yn 105 O.C.. Ulpia oedd enw teuluol (gens) yr ymerawdwr.

Denarius a fathwyd yn 193 gan Septimius Severus er anrhydedd i Legio XXX Ulpia Victrix

Ffurfiodd Trajan y lleng yma a Legio II Traiana Fortis yn 105 ar gyfer ei ryfeloedd yn erbyn y Daciaid. Bu'n ymladd eto yn erbyn y Daciaid wedi 117, ac apwyntiodd yr ymerawdwr Hadrian ei gyfaill Quintus Marcius Turbo yn legad y lleng. Tua 120, cofnodir fod rhan o'r lleng yn Ulpia Noviomagus Batavorum (Nijmegen heddiw). Yn 122, wedi i'r lleng VI Victrix gael ei symud o Germania o Brydain, symudwyd XXX Ulpia Victrix i Colonia Ulpia Traiana (Xanten heddiw) yn nhalaith Germania Inferior.

Yn ystod rhyfeloedd cartref 193 - 197, cefnogodd y lleng Septimius Severus, a roddodd y teitl Pia Fidelis oddi. Yn 235 ymladdodd yn erbyn y Persiaid dan Severus Alexander. Yn 310, fe'i symudwyd i Tricensimae. Mae'n debyg i'r lleng ddod i ben yn 407, pan dorrodd y llwythau Almaenig trwy'r ffîn.