Mae Lemonêd (neu Lemwnêd) yn ddiod ysgafn wedi ei gwneud o lemwn. Mae cynhwysion lemonêd yn amrywio ledled y byd, gyda nifer o wahanol fathau o lemonêd ar gael yng Ngogledd America a'r Gymanwlad.

Gwydred o lemonêd cymylog

Hanes golygu

Lemonêd yn ei ffurf angharbonedig yw un o'r diodydd ysgafn masnachol hynaf yn y byd. Mae'r ddiod yn dyddio o'r 17g o leiaf. Ym Mharis yn 1676, ffurfiwyd busnes o'r enw Compagnie de Limonadiers a rhoddwyd caniatâd monopoli iddynt werthu lemonêd, a oedd yn cael ei ddosbarthu gan werthwyr mewn cwpanau o danciau yr oeddent yn cario ar eu cefnau. Mewn nifer o ieithoedd, mae'r gair Ffrengig limonade yn cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol am ddiod ysgafn.

Y Deyrnas Unedig ac Iwerddon golygu

Yn y Deyrnas Unedig, mae lemonêd fel arfer yn garbonedig, wedi ei wneud o sudd lemwn, siwgr a dŵr carbonedig. Mae'r rhan fwyaf o lemonêd sy'n cael ei werthu yn y DU a Iwerddon yn ddi-liw, ond gellid hefyd prynu Lemonêd 'cymylog' neu 'traddodiadol'. Yn Iwerddon, gellid prynu Lemonêd Coch, sydd a lliw a blas nodedig sy'n wahanol i lemonêd 'gwyn'. Defnyddir lemonêd fel cymysgwr mewn diodydd alcoholig yn aml ym Mhrydain ac Iwerddon.

Gogledd America golygu

Yng Ngogledd America (yn enwedig yr Unol Daleithiau a Canada), mae lemonêd yn cyfeirio at gymysgedd angharbonedig o sudd lemwn, dŵr a siwgr. Am y rheswm hon, mae'r rhan fwyaf o'r lemonêd sy'n cael ei greu yng Ngogledd America yn cael ei wneud gartref ac yn cael ei yfed gan fwyaf yn yr haf. Mae'n gymysgedd tenau sy'n medru bod yn grynodedig, gwanedig, sur neu'n felys yn dibynnu ar y maint o sudd lemwnsiwgr sydd yn y diod.

Chwiliwch am lemonêd
yn Wiciadur.