Ymerawdr Bysantaidd rhwng 717 a 741 oedd Leo III neu Leo yr Isawriad, Groeg: Λέων Γ΄, Leōn III, (c. 685 - 18 Mehefin, 741).

Leo III
Ganwyd675 Edit this on Wikidata
Kahramanmaraş Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 741 Edit this on Wikidata
o edema Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
PriodMaria, wife of Leo III Edit this on Wikidata
PlantKonstantinos V, Anna, wife of Artabasdos, Kozma, Irina Edit this on Wikidata
LlinachIsaurian dynasty Edit this on Wikidata
Leo III a'i fab Cystennin V.

Ganed Leo yn Germanikeia (Maraş) yn nhalaith Commagene yn Syria. Ei enw gwreiddiol oedd Konon. Bu yng ngwasanaeth yr ymerawdwr Justinianus II, yna apwyntiwyd ef yn stratēgos y thema Atolig gan yr ymerawdwr Anastasios II. Pan ddiorseddwyd Anastasios II, gwnaeth Leo gynghrair ag Artabasdus, stratēgos y theme Armeniac, yn erbyn yr ymerawdwr newydd, Theodosios III. Meddiannodd Leo Gaergystennin a dod yn ymerawdwr yn 717.

Yn fuan wedyn daeth Caergystennin dan warchae gan fyddin Arabaidd Ummayad o 80,00 o wŷr wedi eu gyrru gan y Califf Sulayman ibn Abd al-Malik. Llwyddodd Leo i amddiffyn y ddinas, a bu raid i'r Arabiaid encilio. Yn ddiweddarach enillodd Leo nifer o fuddugoliaethau dros yr Arabiaid, yn enwedig Brwydr Akroinon yn 740. Bu hefyd yn gyfrifol am ddiwygiadau cymdeithasol, gan droi'r taeogion yn ddosbarth o denantiaid rhyddion.

Cefnogai Leo y mudiad eiconoclastig, oedd yn gwrthwynebu'r defnydd o ddelwau mewn addoliad. Rhwng 726 a 729 cyhoeddodd nifer o orchymynion yn gwahardd y defnydd o ddeilau ac eiconau. Bu cryn dipyn o wrthwynebiad i hyn.