Leona Lewis

actores a aned yn 1985

Mae Leona Louise Lewis (ganwyd 3 Ebrill 1985 yn Llundain, y Deyrnas Unedig) yn gantores bop/R&B ac yn gyfansoddwraig. Leona Lewis enillodd y drydedd gyfres o'r sioe dalentau ar deledu Prydeinig The X Factor yn 2006. Torrodd ei sengl gyntaf yn y DU, "A Moment Like This" record y byd ar ôl 50,000 copi o'r gân gael eu lawrlwytho o fewn hanner awr o gael ei rhyddhau.

Leona Lewis
GanwydLeona Louise Lewis Edit this on Wikidata
3 Ebrill 1985 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioCBS Records, Syco Music Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Theatr Sylvia Young
  • Italia Conti Academy of Theatre Arts
  • Corona Theatre School
  • BRIT School for Performing Arts and Technology Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr caneuon, actor, canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWhitney Houston Edit this on Wikidata
Gwobr/auThe Record of the Year, OBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://leonalewismusic.com Edit this on Wikidata

Ei hail sengl, "Bleeding Love", oedd y sengl a werthodd fwyaf o gopïau yn 2007 yng ngwledydd Prydain. Aeth i rif un mewn dros 30 o siartiau rhyngwladol gan gynnwys Canada, UDA, Mecsico, Awstralia,Seland Newydd, Iwerddon, Ffrainc a'r Almaen.

Rhyddhawyd ei halbwm gyntaf, Spirit, ledled Ewrop a daeth yr albwm i fod yr albwm a werthodd gyflymaf a fwyaf yn 2007.[1] Rhyddhawyd fersiwn gwahanol o Spirit yng Ngogledd America yn 2008, gan gyrraedd rhif un ar siart albwm y Billboard 200.[2] Lewis yw'r artist unigol Prydeinig cyntaf i gyrraedd y brig gydag albwm cyntaf. Hyd yn hyn, mae'r albwm wedi gwerthu 7 miliwn o gopïau yn fyd-eang ac wedi derbyn ardystiad platinwm 9× yn y Deyrnas Unedig.

Yn Nhachwedd 2008, torrodd Lewis record yn y DU am y gân lawr-lwythiad yn unig i werthu gyflymaf yn y DU. Gwerthodd ei fersiwn hi o "Run" gan Snow Patrol 69,244 o gopïau mewn deuddydd yn unig.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "High Spirits". Chart-Track. 2007-11-16. Adalwyd 2008-07-24.
  2. Hasty, K (16 Ebrill 2008). "Leona Lewis Makes Big Splash Atop Billboard 200". Archifwyd 2008-06-24 yn y Peiriant Wayback. Billboard. Adalwyd 16-04-2008.
  3. Jamieson, A (4 Rhagfyr 2008). "Leona Lewis single becomes fastest-selling digital release". Archifwyd 2008-12-27 yn y Peiriant Wayback. The Daily Telegraph. Adalwyd 12-02-2009.