Lepcha (iaith)

iaith

Yr iaith a siaredir gan y bobl Lepcha yn Sikkim yn India a rhannau cyfagos o Nepal a Bhwtan yw Lepcha. Mae'n cael ei chyfrif fel un o'r ieithoedd Tibeto-Bwrmaidd. Mae ysgrifen Lepcha (a elwir hefyd yn "róng") yn sillwyddor sy'n gofyn sawl marc arbennig i'w dynodi. Mae ei tharddiad yn ansicr. Roedd yn arfer ysgrifennu llawysgrifau Lepcha cynnar o'r pen i'r gwaelod, sy'n awgrymu dylanwad y system ysgrifennu Tsieinaeg. Mae'r rhan fwyaf o ieithegwyr, yn cynnwys y bobl Lepcha eu hunain, yn ystyried mai Lepcha yw un o ieithoedd brodorol ei bro ieithyddol. Amcangyfrifir fod tua 50,000 o bobl yn siarad yr iaith Lepcha, yn bennaf yn Sikkim ac ardal Darjeeling.

Yn ôl traddodadiau'r bobl Lepcha, crëwyd yr iaith gan Dduw fel iaith i Fodong Thing a Nazaong Nyu, "Adda ac Efa" y Lepcha.

Rhai geiriau Lepcha golygu

  • Poom thing - hynafiad, hendaid
  • Zum -
  • Lavo - lleuad; mis (o flaen enw'r mis)
  • Maro - dyn, dynes; bod dynol
  • Chyo boo - myfyriwr

Llyfryddiaeth golygu

  • G. B. Mainwaring, A Grammar of the Rong (Lepcha) Language (1876)
  • K. P. Tamsang (gol.), The Lepcha-English Encyclopaedic Dictionary (Mayel Clymit Tamsang, Kalimpong, 1980). Daw'r geiriau a ddyfynnir uchod o'r geiriadur hwn.

Dolenni allanol golygu