Les Liaisons dangereuses

Nofel epistolaidd Ffrangeg enwog a ysfrifenwyd yn 1782 gan y llenor Ffrengig Pierre Choderlos de Laclos (1741–1803) yw Les Liaisons dangereuses. Ystyrir y nofel, sy'n adrodd hanes yr ymryson gwyriedig a nwydus rhwng dau libertin uchelwrol yng nghyfnod Yr Oleuedigaeth Ffrengig (le siècle des Lumières), yn un o weithiau mawr llenyddiaeth Ffrangeg.

Les Liaisons dangereuses
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurPierre Choderlos de Laclos Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
IaithFfrangeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi23 Mawrth 1782 Edit this on Wikidata
GenreNofel epistolaidd, libertine novel, erotica, ffuglen, naratif Edit this on Wikidata
CymeriadauMarquise de Merteuil, Vicomte de Valmont, Cécile de Volanges, Madame de Tourvel, Danceny Edit this on Wikidata
Prif bwnctrosedd, rhinwedd, moesoldeb, athroniaeth, cariad, feeling, correspondence, rhyngweithiad, hapusrwydd, libertinism, cymdeithas, grym, vanity, persbectif Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithParis, cefn gwlad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun i bennod XLIV o argraffiad 1796 Les Liaisons dangereuses

Fframwaith y nofel yw cyfres o lythyrau rhwng y ddau brif gymeriad, yr Ardalyddes de Merteuil (Madame de Merteuil) a'r Is-iarll de Valmont (Valmont), ac eraill, sy'n disgrifio eu hymdrechion i hudo merch ifanc iawn - Cécile de Volanges - i golli ei morwyndod, a hynny er mwyn ennill bet.

Achosodd y nofel gryn sgandal ar y pryd a chafodd ei chamddeall a'i chomdemnio fel ymosodiad ar foes cymdeithas. Ond amddiffynodd Laclos y llyfr. Camfernir y nofel gan rai hyd heddiw am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,

Peut-être ces mêmes Liaisons dangereuses, tant reporchées aujourd'hui par les femmes, sont une preuve assez forte que je me suis beaucoup occupé d'elles. (Efallai'n wir bod y Liaisons dangereuses hynny eu hunain, a feirniadir gymaint gan y merched, yn brawf digon cryf fy mod wedi ymroi llawer i'w hachos.)[1]

Addasiadau modern golygu

Ceir sawl ffilm sy'n seiliedig ar y nofel, yn cynnwys:

Cyfeiriadau golygu

  1. Roger Vailland, Laclos par lui-même (Paris, 1953).