Lewis Morris (1833–1907)

bardd
(Ailgyfeiriad o Lewis Morris (1833-1907))

Bardd Eingl-Gymreig oedd Syr Lewis Morris (23 Ionawr 183312 Tachwedd 1907).

Lewis Morris
Ganwyd23 Ionawr 1833 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw12 Tachwedd 1907 Edit this on Wikidata
Penbryn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgBaglor yn y Celfyddydau, Meistr yn y Celfyddydau Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, gwleidydd Edit this on Wikidata
PerthnasauLewis Morris Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Ganed ef yng Nghaerfyrddin, yn fab i Lewis Edward William Morris a gor-ŵyr Lewis Morris, un o Forysiaid Môn. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn y clasuron 1856; ef oedd y myfyriwr cyntaf mewn 30 mlynedd i gael anrhydedd dosbarth cyntaf yn yr arholiadau rhagarweiniol a therfynol. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1861. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Songs of Two Worlds yn 1871, a dilynwyd hi gan nifer eraill. Un o'i gerddi mwyaf adnabyddus yw "Love's Suicide". Bu'n gyd-ysgrifennydd a chyd-drysorydd Coleg Prifysgol Aberystwyth.

Gwnaed ef yn farchog yn 1895. Roedd yn gobethio cael ei ddewis i swydd Bardd Llawryfog (Poet Laureate), ond nis cafodd, efallai oherwydd ei fod yn cymdeithasu ag Oscar Wilde.

Claddwyd ef ym mynwent Llangynnwr ger Caerfyrddin.