Liber AL vel Legis

Liber AL vel Legis yw prif destun cysegredig Thelema, wedi ei ysgrifennu gan Aleister Crowley yng Nghairo, yr Aifft ym 1904. Ei deitl llawn yw Liber AL vel Legis, sub figura CCXX, as delivered by XCIII=418 to DCLXVI, ond fel arfer cyfeirir ato yn Saesneg dan yr enw The Book of the Law, “Llyfr y Gyfraith”'.

Liber AL vel Legis
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, ysgrythur Edit this on Wikidata
CrëwrAleister Crowley Edit this on Wikidata
AwdurAleister Crowley, Aiwass Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1909 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1904 Edit this on Wikidata
Genrellenyddiaeth grefyddol Edit this on Wikidata
Prif bwncThelema Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia


Clawr Liber AL vel Legis.

Mae Liber AL vel Legis yn cynnwys tair pennod, pob un wedi ei chyfansoddi o fewn awr o 12:00 tan 13:00 o’r gloch ar 8 Ebrill, 9 Ebrill a 10 Ebrill 1904. Honnai Crowley mai endid o’r enw Aiwass oedd yr awdur, gyda'r endid yn sianelu'r geiriau trwy ddwylo Crowley. Wedyn daeth Crowley i'r casgliad mai ei Angel Gwarchodol Sanctaidd personol oedd Aiwass.

Mae Liber AL vel Legis yn datgelu model o realiti sy'n cyfuno dau rym elfennol: estyniad diderfyn y gofod, sy'n cael ei ymgnawdoli gan dduwies Eifftaidd yr wybren, Nuit, a chanolbwynt y gofod, sy'n cael ei ymgnawdoli gan y duw Eifftaidd Hadit. Mae rhyngweithrediad y ddau ffigwr yma'n achosi i realiti ddod i fodolaeth.

Dau o dri phrif lefarydd yn Liber AL vel Legis yw Nuit (hefyd: Nu) a Hadit (hefyd: Had), gyda Nuit yn llefaru ym Mhennod I a Hadit yn llefaru ym Mhennod II. Y trydydd llefarydd, ym Mhennod III, yw'r duw â phen yr hebog, Ra-Hoor-Khuit (Horws), "arglwydd yr epoc cyfredol".

Mae'r ddwy adnod ganlynol yn crynhoi neges y llyfr:

  • “Do what thou wilt shall be the whole of the Law” (AL I:40) a
  • “Love is the law, love under will” (AL I:57).

Dolenni allanol golygu