Nofelydd trosedd a newyddiadurwraig Seisnig yw Lindsay Ashford (ganwyd 23 Ionawr 1959). Mae ei harddull ysgrifennu wedi cael ei chymharu â gwaith Vivien Armstrong, Linda Fairstein a Frances Fyfield. Mae nifer o'i nofelau'n dilyn y cymeriad Megan Rhys, seicolegydd ymchwiliol.

Lindsay Ashford
Ganwyd23 Ionawr 1959 Edit this on Wikidata
Wolverhampton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.lindsayashford.co.uk Edit this on Wikidata

Fe'i magwyd yn Wolverhampton, Lloegr a hi oedd y ferch gyntaf i raddio o Goleg y Breninesau, Caergrawnt yn ei hanes 550 mlynedd o hyd. Enillodd radd mewn Troseddeg. Cyflogwyd Ashford fel newyddiadurwraig gan y BBC cyn iddi ddechrau weithio'n lawrydd, gan ysgrifennu ar gyfer amryw o bapurau newydd a chylchgronau. Mynychodd Ashford gwrs ysgrifennu trosedd a redwyd gan y Arvon Foundation ym 1996. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Frozen, gan Honno yn 2003.

Cafodd Strange Blood ei enwi ar restr fer Theakston's Old Peculier Crime Novel of the Year Award 2006.[1] Ysgrifennodd The Rubber Woman ar gyfer cyfres Stori Sydyn yn 2007.

Mae Ashford bellach yn byw yn y Borth, ger Aberystwyth, Ceredigion.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Cyfrannu:

Cyfeiriadau golygu

  1.  Strange Blood - Lindsay Ashford. IT'S A CRIME! (OR A MYSTERY...) (2006-10-26).
  2.  A Writer's Trials. BBC Wales.

Dolenni allanol golygu