Uned cyfaint ydy litr a gynrychiolir mewn dwy ffordd: y llythyren "L" fawr neu "l" fach. Tydy'r litr ddim yn perthyn i'r System Ryngwladol o Unedau, ond mae'n unedau ychwanegol at yr Unedau SI. Dyma'r symbol a ddefnyddir fwyaf led-led y byd.[1] Yr Uned SI swyddogol ydy'r metr ciwb (m3), sy'n hafal i 1,000 o litrau. Mae un litr yn hafal i 1/1,000 metr ciwb ac yn cael ei ddiffinio fel decimetr ciwbig (dm3).

Y diffiniad o litr ydy cyfaint ciwb gyda phob ochr yn 10 cm.

Mae'r gair yn tarddu o'r Hen Ffrangeg a chyn hynny o'r Groeg (via'r Lladin). Caiff ei ddefnyddio, fel arfer, i fesur hylif neu yn y gegin i fesur aeron ayb.

Diffiniad golygu

Y diffiniad o litr, felly, ydy decimetr ciwbig: (1 L = 1 dm3 = 103 cm3). Felly, 1 L ≡ 0.001 metr ciwb|m3 (yn union). Ac: 1,000 L = 1 m3

Rhwng 1901 ag 1964 diffiniwyd litr fel cyfaint un kilogram o ddŵr pur ar dymheredd o 4 °C a 760 milimetrau o arian byw o wasgedd. Yn yr adeg hon, roedd litr tua 1.000028 dm3. Disodlwyd y diffiniad hwn yn 1964.

Cywerthedd golygu

  • 0.1 centilitr.
  • 0.01 decilitr
  • 0.001 litr
  • 0.0001 decalitr
  • 0.00001 hectolitr
  • 0.000001 Kilolitr (hefyd cilolitr)

Cyfeiriadau golygu