Littlehampton

tref yng Ngorllewin Sussex

Tref glan môr a phlwyf sifil yng Ngorllewin Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Littlehampton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Arun. Saif ar lannau dwyreiniol aber Afon Arun, tua 51.5 milltir (83 km) i'r de o dde-orllewin Llundain, 17.5 milltir (28 km) i'r gorllewin o Brighton, a 11 milltir (18 km) i'r dwyrain o dref sirol Chichester.

Littlehampton
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Arun
Poblogaeth58,357 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iChennevières-sur-Marne Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd10.06 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.8094°N 0.5409°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04009867 Edit this on Wikidata
Cod OSTQ029020 Edit this on Wikidata
Cod postBN17 Edit this on Wikidata
Map

Gorchuddia'r plwyd arwynebedd o 11.35 km2 (4 milltir sgwâr). Mae ei maesdrefi'n cynnwys: Wick yn y gogledd orllewin; Lyminster i'r gogledd; Dwyrain Preston, Rustington a Angmering i'r dwyrain. Daeth Wick a Toddington yn rhan o'r dref yn 1901. Mae'r trefi cyfagos yn cynnwys Bognor Regis gorllewin de-orllewin Worthing i'r dwyrain. Y dref hon yw'r dref mwyaf gorllewinol yn y ardal ddinesig deuddegfed fwyaf yn y DU, sef y gytref Brighton/Worthing/Littlehampton, ardal sy'n cynnwys tua 461,181 o bobl (cyfrifiad 2001).

Gyfeilldrefi golygu

Mae Littlehampton wedi ei gyfeillio â:

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 16 Medi 2018

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Orllewin Sussex. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato