Llan-gain

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llan-gain[1] (hefyd: Llangain). Saif ar y ffordd B4312 rhwng Caerfyrddin a Llansteffan.

Llan-gain
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth573 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,104.78 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8167°N 4.35°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000527 Edit this on Wikidata
Cod OSSN385155 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auSimon Hart (Ceidwadwr)
Map
Am y pentref yn Swydd Henffordd, gweler Kentchurch.

Adeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1871 i gymeryd lle yr hen eglwys ganoloesol. Mae wedi ei chysegru i Santes Cain, un o 24 merch Brychan Brycheiniog. Mae yma safle castell canoloesol cynnar, Hengastell, ac adfail o'r 15g a elwir yn Castell Foel neu Green Castle, oedd mewn gwirionedd yn blasdy yn perthyn i'r teulu Reed.

Pan yn fachgen, arferai'r bardd Dylan Thomas ddod ar ei wyliau i blasdy Fernhill yn y plwyf; yn ddiweddarach ysgrifennodd ei gerdd adnabyddus Fernhill.

Capel Smyrna, Llangain

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Simon Hart (Ceidwadwr).[3]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llan-gain (pob oed) (573)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-gain) (248)
  
44%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-gain) (418)
  
72.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llan-gain) (106)
  
40.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Enwau Lleoedd Sir Gâr". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-24. Cyrchwyd 2010-01-18.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol golygu