Llanbryn-mair

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanbryn-mair neu Llanbrynmair[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Maldwyn ar briffordd yr A470 tua 10 milltir i'r dwyrain o Fachynlleth ar y ffordd i'r Drenewydd.

Llanbrynmair
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth920 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd12,952.81 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6121°N 3.6275°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000289 Edit this on Wikidata
Cod OSSH898028 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Hanes golygu

Gorwedd Castell Tafolwern, safle prif lys cwmwd Cyfeiliog yn yr Oesoedd Canol, tua hanner milltir i'r gorllewin o ganol y pentref, ar gymer afonydd Twymyn ac Iaen. Am gyfnod bu'n bencadlys i'r bardd-dywysog Owain Cyfeiliog.

Ganed y bardd Mynyddog yn Y Fron, cartref ei rieni yn Llanbryn-mair, yn 1833. Treuliodd ei ieuenctid yn amaethu ar y fferm teuluol ac yn bugeilio ar fryniau Llanbryn-mair. Fe'i claddwyd yn y pentref ar ei farwolaeth yn 1877. Roedd y gweinidog a diwygiwr radicalaidd Samuel Roberts (S.R.) hefyd yn frodor o Lanbryn-mair.

Treuliodd y baledwr Owain Meirion, yn enedigol o'r Bala, ei flynyddoedd olaf yn Llanbryn-mair lle bu farw yn 1868. Roedd Mynyddog yn gyfaill iddo.

 
Rhaeadr Pennant tuag 1885

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbryn-mair (pob oed) (920)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbryn-mair) (432)
  
48.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbryn-mair) (474)
  
51.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbryn-mair) (144)
  
36.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Gwelwch hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 29 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.