Llanfihangel Llantarnam

cymuned ym mwrdeisdref sirol Torfaen yn ne-ddwyrain Cymru

Pentref, plwyf a chymuned ym Mwrdeisdref Sirol Torfaen, Cymru, yw Llanfihangel Llantarnam, weithiau Llantarnam. Hi yw'r gymuned fwyaf deheuol yn Nhorfaen, ac mae wedi datblygu yn un o faesdrefi Cwmbrân. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,299; cynyddodd i 4,125 erbyn 2011. Mae Camlas Sir Fynwy yn rhedeg trwy'r gymuned. Bu yma eglwys ar un cyfnod a gysegrwyd i sant Derfel Gadarn.[1]

Llanfihangel Llantarnam
Tafarn yn LLanfihangel Llantarnam
Mathmaestref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,125 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTorfaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd656.1 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.636°N 3.006°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000765 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLynne Neagle (Llafur)
AS/auNick Thomas-Symonds (Llafur)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lynne Neagle (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Nick Thomas-Symonds (Llafur).[3]

Abaty Llantarnam golygu

Sefydlwyd abaty Sistersaidd Llantarnam yma yn 1179 gan fynachod o Ystrad Fflur dan nawdd Hywel ap Iorwerth, arglwydd Caerllion. Efallai mai yng Nghaerllion y sefydlwyd y fynachlog gyntaf, ond cofnodir ei bod yn Llantarnam erbyn y 13g. Roedd yr abad John ap Hywel yn un o brif gefnogwyr Owain Glyn Dŵr; lladdwyd ef ym Mrwydr Pwllmelyn yn 1405. Yn ddiweddarach, trowyd yr abaty yn blasdy, ac mae'n awr yn gartref i Chwiorydd Sant Joseff. Ceir Croes Llanfihangel Llantarnam yma.

Pobl o Lantarnam golygu

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfihangel Llantarnam (pob oed) (4,125)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfihangel Llantarnam) (331)
  
8.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfihangel Llantarnam) (3326)
  
80.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanfihangel Llantarnam) (637)
  
38.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. llgc.org.uk; Welsh Classical Dictionary; adalwyd 6 Ebrill 2017.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]