Llanfihangel Nant Melan

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref bychan yng nghymuned Maesyfed, Powys, Cymru, yw Llanfihangel Nant Melan (ceir y ffurf Llanfihangel-Nant-Melan mewn rhai ffynonellau Saesneg). Saif yn ardal Maesyfed, 50.8 milltir (81.7 km) o Gaerdydd a 139.9 milltir (225.1 km) o Lundain. Mae'n gorwedd i'r de o Fforest Clud ar yr A44 rhwng Llandrindod yng Nghymru a Llanllieni yn Lloegr (Swydd Henffordd).

Llanfihangel Nant Melan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2155°N 3.2013°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map

Chwedl golygu

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn Fforest Clud ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nantmelan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[1].

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. [https://web.archive.org/web/20070430204832/http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm Archifwyd 2007-04-30 yn y Peiriant Wayback. "St Michael and the Dragon of Radnor Forest" ar wefan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu).
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-30.
  3. Gwefan Senedd y DU