Llangwnnadl

pentref yng Ngwynedd

Pentref bach yng nghymuned Tudweiliog, Gwynedd, Cymru, yw Llangwnnadl ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Llangwnadl). Saif ym mhen gorllewinol Llŷn tua milltir o'r môr rhwng Aberdaron a Nefyn ar ochr ogleddol pen eithaf penrhyn Llŷn. O'r pentref mae lôn gul yn arwain i lawr i Borth Golman ar lan bae agored traeth Penllech a'i draethau tywod braf.

Llangwnnadl
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.86°N 4.66°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH208331 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Yr eglwys golygu

Ymddengys fod yr enw presennol yn llygriad o'r enw 'Llangwynhoedl', sef llan y sant Gwynhoedl y dywedir bod ganddo gapel neu gell feudwy yno yn y 6g.

Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o tua diwedd yr Oesoedd Canol ond mae'n cynnwys yn ei fur deheuol garreg fawr â cherflun o groes o fewn cylch arni, sy'n dyddio efallai o'r 6g. Cafodd yr eglwys ei hadnewyddu yn 1850 ond mae'n cadw rhai nodweddion a chofebion hynafol. Yn ôl traddodiad claddwyd y sant ei hun yn yr eglwys, neu ar ei safle, a cheir arysgrif ynddi mewn llythrennau Gothig sy'n darllen Ihc S Gwynhoydl iacet hic ("Mae Sant Gwynhoedl yn gorffwys yn yr eglwys hon").

Ar un adeg roedd gan yr eglwys hen gloch Geltaidd ond fe'i diogelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd bellach.

Enwogion golygu

Roedd yr awdur J.G. Williams (1915-1987) yn frodor o Langwnadl. Mae'n sôn am yr ardal yn ei hunagofiant arbennig Pigau'r Sêr.

Cyfeiriadau golygu