Llanrhychwyn

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Pentref bach a phlwyf eglwysig yng nghymuned Trefriw, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanrhychwyn.[1][2] Mae hen eglwys yno, sef Eglwys Sant Rhychwyn. Mae'r plwyf yn eang ac yn cynnwys Betws-y-Coed. Yn ymyl y pentref ceir Coedwig Gwydyr. I'r de-orllewin gorwedd Llyn Geirionnydd.

Llanrhychwyn
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTrefriw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1405°N 3.8296°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH776619 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map

Eglwys Llanrhychwyn golygu

Yn ôl traddodiad roedd y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, yn blino ar deithio yr holl ffordd o'r llys yn Nhrefriw i eglwys Llanrhychwyn ac felly cododd Llywelyn eglwys newydd iddi yn Nhrefriw yn y flwyddyn 1220.

Mae'r eglwys yn hen. Dywedir iddi gael ei sefydlu gan Sant Rhychwyn. Roedd y sant yn un o feibion Helig ap Glannog yn ôl traddodiad, ond ni wyddys dim arall amdano. Ceir llun dychmygol o Rychwyn gyda Dewi Sant yn eglwys Llanrwst. Ei wylmabsant yw 12 Gorffennaf.

Pobl o Lanrychwyn golygu

  • Robert Williams (Trebor Mai) (1830–77). Ganed y bardd mewn bwthyn ger eglwys y plwyf a threuliodd ei blentyndod yn y pentref. Yn ddyn ifanc, symudodd i fyw a gweithio yn Llanrwst a daeth yn un o feirdd mwyaf adnabyddus ei ddydd, yn arbennig oherwydd ei ddawn i gyfansoddi englynion.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021