Llawdriniaeth ailbennu rhyw

Llawdriniaeth i newid golwg gorfforol a swyddogaethau nodweddion rhywiol er mwyn iddynt ymddangos a gweithredu fel rhai'r rhyw arall yw llawdriniaeth ailbennu rhyw neu lawdriniaeth ailbennu rhywedd.[1] Nod y fath driniaeth yw adlewyrchu hunaniaeth rhywedd yr unigolyn.

Symbol trawsryweddol
Symbol trawsryweddol
Trawsrywedd
Hunaniaethau
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd
Pynciau
Cwestiynu · Trawsrywioldeb
Agweddau clinigol a meddygol
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Rhestrau
Pobl
Categori
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Bydd unigolyn trawsryweddol yn cael llawdriniaeth ailbennu rhyw fel rhan o'r broses ailbennu rhywedd neu drawsnewid, yn aml ar y cyd â thriniaethau meddygol eraill megis cwnsela, seicotherapi, a therapi hormonau. Gelwir triniaethau sydd yn newid nodweddion rhyw y frest drwy ychwanegu neu dynnu bronnau yn "llawdriniaeth uchaf", a thriniaethau sydd yn newid yr organau cenhedlu yn "llawdriniaeth isaf".[1]

Gallai unigolyn sy'n trawsnewid o fod yn fenyw i fod yn ddyn gael mastectomi i dynnu'r bronnau, hysterectomi i dynnu'r groth, a salpingo-öofforectomi i dynnu'r tiwbiau Ffalopaidd a'r ofarïau. Gallai gael naill ai mewnosodiad pidyn, ffaloplasti, neu metoidioplasti i gynhyrchu pidyn, a sgrotoplasti a mewnosodiad ceilliau i gynhyrchu'r ceillgwd a'r ceilliau. Gallai unigolyn sy'n trawsnewid o fod yn ddyn i fod yn fenyw gael orcidectomi i dynnu'r ceilliau a penectomi i dynnu'r pidyn, faginoplasti i gynhyrchu gwain, fylfoplasti i gynhyrchu fylfa, clitoroplasti i gynhyrchu clitoris, mewnosodiad bronnau, a llawdriniaeth i fenyweiddio'r wyneb, hynny yw newid siâp y wyneb fel ei bod yn debycach i fenyw.[2]

Rhai o'r unigolion cyntaf i dderbyn llawdriniaeth ailbennu rhyw oedd Lili Elbe a Christine Jorgensen.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Rhestr termau[dolen marw]", gwefan Dysfforia Rhywedd GIG Cymru. Adalwyd ar 16 Ebrill 2018.
  2. (Saesneg) "Gender dysphoria Archifwyd 2011-10-17 yn y Peiriant Wayback.", Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 16 Ebrill 2018.