Llofrudd cyfresol

Unigolyn yw llofrudd cyfresol sydd wedi llofruddio o leiaf tri pherson dros gyfnod o fwy na mis gyda seibiant rhwng y llofruddiaethau, ac sydd â boddhâd seicolegol fel y prif sail i'w gymhell dros ladd. Mae rhai diffiniadau yn labelu person yn llofrudd cyfresol os ydynt wedi lladd dau berson yn unig. Yn aml, ceir elfen rywiol i'r llofruddiaethau, ond yn ôl yr FBI mae cymhellion dros lofruddiaeth gyfresol hefyd yn cynnwys "dicter, ias, elw ariannol, a cheisio am sylw". Gall fod rhyw fodd tebyg gan y llofruddiaethau (y modus operandi) neu all fod rhywbeth yn gyffredin gan y dioddefwyr, er enghraifft eu galwedigaeth, hil, golwg, rhyw, neu grŵp oedran.

Roedd Sawney Bean yn llofrudd cyfresol chwedlonol yr Alban. Dywedir iddo ef a'i dylwyth ladd a bwyta cnawd mwy na 1,000 o bobl mewn 25 mlynedd yn yr 16g.

Mae llofrudd cyfresol yn wahanol i lofrudd torfol, sy'n lladd nifer o bobl ar yr un adeg, a llofrudd sbri, sy'n lladd mewn dau leoliad neu fwy heb doriad rhwng y llofruddiaethau.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.