Lluís Companys

123ydd Arlywydd Catalwnia

Gwleidydd a chenedlaetholwr Catalanaidd oedd Lluís Companys i Jover (21 Mehefin 1882 - 14 Hydref 1940). Roedd yn arweinydd y blaid Esquerra Republicana de Catalunya, ac yn Arlywydd y Generalitat de Catalunya o 1934 hyd ddiwedd Rhyfel Cartref Sbaen.

Lluís Companys
Ganwyd21 Mehefin 1882, 21 Mehefin 1883 Edit this on Wikidata
El Tarròs Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1940 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Montjuïc Castle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Barcelona
  • Liceu Poliglot Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr, undebwr llafur Edit this on Wikidata
SwyddArlywyddion Catalwnia, member of the Congress of Deputies, cynghorydd tref Barcelona, Llywodraethwr Sifil Barcelona, Aelod o Lywodraeth Catalwnia, Arlywyddion Catalwnia, cynghorydd tref Barcelona, Gweinidog Llynges Sbaen, President of the Parliament of Catalonia, Cadeirydd y Chwith Weriniaethol Catalwnia, Cadeirydd y Chwith Weriniaethol Catalwnia, Member of the Cortes republicanas, Member of the Cortes republicanas, Member of the Cortes republicanas Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolEsquerra Republicana de Catalunya, Republican Union, Joventut Republicana de Lleida, Catalan Republican Party, Republican Nationalist Federal Union Edit this on Wikidata
TadJosep Companys i Fontanet Edit this on Wikidata
MamMaria Lluïsa de Jover Edit this on Wikidata
PriodCarme Ballester i Llasat, Mercè Micó i Busquets Edit this on Wikidata
PlantLluís Companys i Micó, Maria de l'Alba Companys i Micó Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef ym mhentref El Tarròs, ger Tornabous. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Barcelona, a dechreuodd ymddiddori mewn gwleidyddiaeth adain-chwith; roedd yn un o sylfaenwyr Solidaridad Catalana. Pan sefydlwyd yr Esquerra Republicana de Catalunya yn 1931, roedd yn un o'r aelodau mwyaf blaenllaw. Ar 19 Rhagfyr 1932 etholwyd ef yn Arlywydd cyntaf Senedd Catalonia. Wedi marwolaeth Francesc Macià, daeth yn Arlywydd y Generalitat ar 1 Ionawr 1934. Ar 6 Hydref, 1934, arweiniodd Companys wrthryfel Catalanaidd yn erbyn llywodraeth Sbaen, a chyhoeddodd geadigaeth gwladwriaeth Gatalanaidd. Dedfrydwyd ef i 30 mlynedd o garchar, ond rhyddhawyd ef wedi i'r Frente Popular adain-chwith ennill etholiad 1936.

Cofeb Companys yn ninas Barcelona.

Pan ddechreuodd Rhyfel Caretref Sbaen, cefnogodd Compays y Weriniaeth yn erbyn lluoedd Francisco Franco. Ar ddiwedd y rhyfel, bu raid iddo ffoi i Ffrainc, lle bu hyd nes i Ffrainc gael ei meddiannu gan yr Almaen yn 1940. Cymerwyd Companys i'r ddalfa gan y Gestapo, a'i drosglwyddo i lywodraeth Franco. Dienyddiwyd ef yng Nghastell Montjuïc, Barcelona.

Enwyd y prif stadiwm a ddefnyddiwyd ar gyfer Gemau Olympaidd yr Haf 1992 ar Montjuïc ar ôl Companys. Defnyddir y stadiwm yn awr gan dîm pêl-droed Espanyol.

Cyfeiriadau golygu