Mae'r term Llundeiniwr (Saesneg: Londoner) yn cyfeirio at berson sydd wedi eu geni a'u magu yn Llundain, prifddinas Lloegr a'r DU; yn y cyd-destun hwn, diffinnir hyn yn draddodiadol fel yr ardaloedd sydd â chôd post Llundain. Ond gyda mewnfudo i'r ddinas yn cynyddu a thyfiant yr ardal fetropolaidd, defnyddir y term 'Llundeinwyr' yn amlach am unrhyw un sy'n byw yn Llundain Fwyaf, er nad yw nifer o drigolion canol Llundain yn ystyried bod y bobl hynny yn wir Lundeinwyr.

I'r gwrthwyneb, mae rhai o drigolion bwrdeistrefi Llundain (fel Harrow a Kingston upon Thames), yn dal i unoliaethu â'r trefi a fu ar wahân gynt, ac felly'n meddwl eu bod yn byw yn yr hen siroedd o hyd, fel Middlesex neu Surrey.

Er fod y term 'Llundeiniwr' yn cael ei dderbyn yn gyffredinol i olygu unrhyw un o Lundain Fwyaf, defnyddir y term yn aml i gyfeiro at y 'Cockneys'. Felly, er fod pob 'Cockney' yn 'Llundeiniwr', nid yw pob Llundeiniwr yn Cockney, oherwydd er mwyn bod yn wir Cockney rhaid i berson gael ei fagu o fewn clywed 'Clychau Bow' (h.y. caniad clychau eglwys plwyf St Mary-le-Bow a Cheapside, yng nghanol Llundain). Ond serch hynny, mae'n arfer cyffredin gan rai pobl i ddefnyddio'r term 'Cockney' yn anghywir i gyfeirio at unrhyw Lundeiniwr.

Defnyddiau eraill o'r term "Llundeiniwr" golygu